Pysgota bras (12 awr)

Cartref > Chwaraeon dwr > Pysgota bras (12 awr)

Mwy am y gweithgaredd

Mwynhewch ddiwrnod o bysgota bras yng Ngogledd Cymru yn llynnoedd llonydd Parc Glasfryn a gaiff eu bwydo’n naturiol gan ffrydiau sy’n llifo ac sydd wedi’u stocio â cherpynnod (carp) (30 pwys), draenogiaid (perch), rhifelliaid (roach), rhuddbysgod (rudd) ac ysgretennod (tench) o ansawdd. Mae’r llynnoedd tonfyrddio wedi’u hail-stocio â physgod bras a phegiau wedi’u marcio ar gyfer pysgotwyr i fwynhau’r golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.

Rydym ni hefyd yn gallu cynnig pysgota gyda’r nos, os ydych yn trefnu ymlaen llaw.

Lleiafswm oedran: 3+

Hyd pob sesiwn: 12 awr

Archebwch Nawr

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Pris: dechrau o £10

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Gwybodaeth ychwanegol

Rhywogaethau Bras

Cerpynnod, Draenogiaid, Rhifelliaid, Rhuddbysgod ac Ysgretennod

Rheolau’r Llyn

  • Pysgota o begiau yn unig.
  • Gellir defnyddio bachau heb adfach (hook) neu rai micro gydag adfach.
  • Rhaid defnyddio matiau dadfachu addas ar gyfer cerpynnod mawr.
  • Dim plwm sefydlog (fixed leads).
  • Dim pelenni brithyllod, cnau, ffa na chynrhonod coch (bloodworm).
  • Uchafswm o 2 wialen.
  • Rhaid dychwelyd y pysgod i’r dŵr yn syth ar ôl eu dal.
  • Rhaid i chi gael gwared ar unrhyw abwyd na ddefnyddir yn y biniau a ddarperir.
  • Cofiwch drin y pysgod yn ofalus, parchwch eich cyd-bysgotwyr a mwynhewch eich diwrnod o bysgota gyda ni.