Tonfyrddio Cebl
Cartref > Chwaraeon dwr > Tonfyrddio Cebl
Mwy am y gweithgaredd
Yma yng Nglasfryn, rydym ni’n cynnig tonfyrddio i bawb, o ddechreuwyr sydd eisiau rhoi cynnig ar gamp newydd i’r tonfyrddiwr profiadol sydd eisiau cyrraedd y lefel nesaf.
Ym Mharc Glasfryn, mae ein systemau cebl System 2.0 sydd wedi’u dylunio’n arbennig yn caniatau’r tonfyrddiwr i ddysgu’r gweithgaredd cyffrous hwn mewn ffordd ddiogel ac o dan reolaeth, gyda hyfforddiant arbenigol ein gweithredwyr cyfeillgar sy’n tywys y tonfyrddiwr bob cam o’r ffordd.
Fel unrhyw gamp, rydych chi’n dechrau’n araf gan ddysgu’r sgiliau sylfaenol wrth i chi ddatblygu, ac mewn dim o dro byddwch chi’n perfformio triciau. Mae’r ddau gebl yn berffaith ar gyfer dechreuwyr gan fod ein rhwystrau wedi’u gosod er mwyn caniatau gofod diogel ar gyfer eich sesiwn gyntaf.
Lleiafswm oedran: 8+
Hyd pob sesiwn: 15 munud
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £25
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Os yn bosibl, archebwch le cyn cyrraedd. Os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw, ffoniwch ni ar y diwrnod i weld a oes lle ar gael. Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn.
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod yn gallu nofio yn hyderus.