Saethu Colomennod Clai
Cartref > Gweithgareddau Awyr Agored > Saethu Colomennod Clai
Mwy am y gweithgaredd
Ym Mharc Glasfryn, gallwch roi cynnig ar saethu colomennod clai, a hynny yng nghanol prydferthwch cefn gwlad Cymru. P’un a ydych chi’n saethwr profiadol neu’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, dyma gyfle i weld pa mor dda ydych chi’n anelu mewn amgylchedd diogel llawn hwyl, perffaith ar gyfer unigolion neu ddigwyddiadau grŵp.
Bydd sgiliau saethu ac antur yn yr awyr agored yn cyfuno i greu diwrnod bythgofiadwy!
Bydd hyfforddwr profiadol a chyfeillgar yn eich tywys drwy’r broses saethu, gan gynnwys y ‘swing’ cywir, sut i afael mewn gwn, a sut i daro targed sy’n symud. Rydym ni’n cynnig gwahanol lefelau er mwyn herio eich sgiliau, p’un a ydych chi’n newydd i’r gamp neu’n hen law arni.
Lleiafswm oedran: 12+
Hyd pob sesiwn: 15 munud
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £30
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Os yn bosibl, archebwch le cyn cyrraedd. Os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw, ffoniwch ni ar y diwrnod i weld a oes lle ar gael. Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn.