Gwibgertio Seddi Dwbl
Cartref > Gweithgareddau Awyr Agored > Gwibgertio Seddi Dwbl
Mwy am y gweithgaredd
Cyfle i fwynhau gwefr ein Cylchffordd Gwibgertio Iau heddiw! Mae ein trac yn berffaith ar gyfer plant ifanc a’r rheiny sydd ag anghenion ychwanegol. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod gydag oedolyn (18 oed neu hŷn) yn ein gwibgerti seddi dwbl. Mae ein trac iau a’n trac dwbl wedi’u dylunio i sicrhau cymaint o hwyl a chyffro â phosib, gan gynnwys troeon, troadau a llwybrau anhygoel a fydd yn cadw gyrwyr ifanc ar flaen eu seddi. Mae ein trac yn cynnig profiad penigamp i raswyr o bob gallu. P’un a ydynt yn llywio troadau tynn neu’n gwibio lawr y llwybrau syth, mae pob lap yn antur ym Mharc Glasfryn.
Bydd angen i blant rhwng 3-7 oed neu’r rheiny sydd ag anghenion ychwanegol fod yng nghwmni oedolyn 18+.
Lleiafswm oedran: 3+ gydag oedolyn
Hyd pob sesiwn: 10 munud
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £20
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Os yn bosibl, archebwch le cyn cyrraedd. Os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw, ffoniwch ni ar y diwrnod i weld a oes lle ar gael. Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn. Ni allwch wisgo sandalau ar y gwibgerti. Ni allwch gymryd rhan os ydych chi wedi anafu ar hyn o bryd, os ydych chi wedi cael cyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol i beidio â chymryd rhan neu os ydych yn feichiog. Peidiwch ag yfed alcohol na chymryd cyffuriau cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau.