Pysgota Bras (24 awr)
Cartref > Chwaraeon dwr > Pysgota Bras (24 awr)
Mwy am y gweithgaredd
Mwynhewch ddiwrnod o bysgota bras yng Ngogledd Cymru yn llynnoedd llonydd Parc Glasfryn a gaiff eu bwydo’n naturiol gan ffrydiau sy’n llifo ac sydd wedi’u stocio â cherpynnod (carp) (30 pwys), draenogiaid (perch), rhifelliaid (roach), rhuddbysgod (rudd) ac ysgretennod (tench) o ansawdd. Mae’r llynnoedd wedi’u hail-stocio â physgod bras a phegiau wedi’u marcio ar gyfer pysgotwyr i fwynhau’r golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.
Rydym ni hefyd yn gallu cynnig pysgota gyda’r nos, os ydych yn trefnu ymlaen llaw.
Lleiafswm oedran: 3+
Hyd pob sesiwn: 12 awr
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £20
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Rhywogaethau Bras
Cerpynnod, Draenogiaid, Rhifelliaid, Rhuddbysgod ac Ysgretennod
Rheolau’r Llyn
- Pysgota o begiau yn unig.
- Gellir defnyddio bachau heb adfach (hook) neu rai micro gydag adfach.
- Rhaid defnyddio matiau dadfachu addas ar gyfer cerpynnod mawr.
- Dim plwm sefydlog (fixed leads).
- Dim pelenni brithyllod, cnau, ffa na chynrhonod coch (bloodworm).
- Uchafswm o 2 wialen.
- Rhaid dychwelyd y pysgod i’r dŵr yn syth ar ol eu dal.
- Rhaid i chi gael gwared ar unrhyw abwyd na ddefnyddir yn y biniau a ddarperir.
- Cofiwch drin y pysgod yn ofalus, parchwch eich cyd-bysgotwyr a mwynhewch eich diwrnod o bysgota gyda ni.