Partion Plu a Stag

Cartref > Partïon > Partion Plu a Stag

Rydym ni’n cynnig penwythnosau Plu a Stag unigryw ar gyfer grwpiau bach a mawr. Y pecyn perffaith i bwy bynnag sy’n priodi, ac i’r rheiny sydd awydd rhywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer.

Rydym ni’n cynnig gweithgareddau grŵp gan gynnwys ein ‘Grand Prix’ Gwibgertio, Saethu Colomennod Clai a chwaraeon dŵr, dim ond i enwi ychydig!

Mwynhewch y bwyd a’r diod blasus yn ein bar a’n bwyty trwyddedig, ymlaciwch yn ein canolfan bowlio deg sydd ag 8 lôn fowlio yn ogystal â byrddau pŵl a hoci aer. Gallwch hyd yn oed hurio un o’n bythynnod hunan-arlwyo.

Cysylltwch â ni am becyn unigryw 01766 810000 neu anfonwch e-bost at info@glasfryn.co.uk

 

Archebwch Nawr