Swyddi
Cartref > Gwybodaeth > Swyddi
ACHUBWYR BYWYD / CYNORTHWYWYR HAMDDEN
Rydym ni’n chwilio am o leiaf 3 achubwr bywyd / cynorthwyydd hamdden ar gyfer ein Parc Dŵr newydd, gyda rhwystrau dŵr tebyg i ‘It’s a Knockout’ a chwrs Crash a Sblash!
Pwrpas
- Canolbwyntio ar ymwelwyr i ddarparu profiad bythgofiadwy o'r radd flaenaf
- Bydd gennych angerdd dros fod allan ar y dŵr a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol!
Prif Gyfrifoldebau
- Bod yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar i bob ymwelydd ac aelodau staff eraill
- Talu sylw’n gyson i'r amgylchoedd, gan sicrhau bod pawb yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym bob amser.
- Sicrhau bod pob ardal yn cael ei chyflwyno a'i chynnal a'i chadw i'r safon uchaf bob amser.
- Cydymffurfio â rheolau'r Parc bob amser.
- Cynorthwyo gyda chynnal gweithgareddau o ddydd i ddydd
- Rhoi gwybodaeth am unrhyw broblemau neu ddigwyddiadau i'ch rheolwr llinell yn syth.
- Sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid o’r safon uchaf bob amser
Sgiliau a Chymwysterau
- Nid yw profiad yn angenrheidiol, ond byddai profiad mewn amgylchedd Hamdden neu Chwaraeon yn fuddiol.
Ymddygiadau
- Hunan-gymhelliant, Llawer o Egni,
- Canolbwyntio ar y Cwsmer / y Cleient
- Gweithio’n dda fel rhan o dîm
- Hyblyg / Prydlon / Rhagweithiol!
Math o swydd: Dros dro
Anfonwch eich CV at Jonathan dros e-bost info@glasfryn.co.uk neu ffoniwch 01766 810 000
Hyfforddwr Tonfyrddio
Cyfrifoldebau
- Sicrhau ymddangosiad ac agwedd proffesiynol bob amser a chynnal gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
- Darparu hyfforddiant sgïo dŵr/tonfyrddio.
- O fewn y tîm, cylchdroi’r cyfrifoldeb am hyfforddi, gyrru, cadw llygad, cymryd archebion a pharatoi gwesteion ar gyfer eu sesiwn.
- Sicrhau mesurau diogelwch o'r safon uchaf.
- Cymryd cyfrifoldeb personol am gynnal a chadw, atgyweirio a diogelwch offer ac ymddangosiad boddhaol y parc er mwyn bodloni disgwyliadau gwesteion.
- Gweithio fel rhan o dîm i osod offer, rhoi offer i gadw a rhoi cymorth yn rhagweithiol i bob gwestai sy'n defnyddio'r offer bob dydd.
- Bod yn hyblyg yn eich rôl ac yn barod i gynorthwyo gyda phob dyletswydd arall, o fewn rheswm, fel y gofynnir gan eich rheolwr yn unol â'r hyfforddiant a roddwyd i chi.
Profiad / Sgiliau
- Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd sgïo dŵr/tonfyrddio yn fanteisiol
- Sgiliau Cymorth Cyntaf / Achub Bywyd
- Profiad blaenorol o wasanaeth cwsmeriaid
- Medrus mewn gyrru cwch sgïo
- Gwybodaeth am y diwydiant sgïo dŵr a tonfyrddio cyfredol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â gwesteion o bob oed, rheolwyr, a staff eraill.
- Y gallu i weithio'n dda o fewn tîm a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a dilyn cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig.
Anfonwch eich CV at Jonathan dros e-bost info@glasfryn.co.uk neu ffoniwch 01766 810 000